Ynglŷn â Sustrans
Sustrans ydym ni. Rydym yn elusen sy’n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio.
Rydym yn beirianwyr, yn arbenigwyr ac yn hyrwyddwyr. Rydym yn cysylltu pobl a lleoedd, yn creu cymdogaethau y gellir byw ynddynt, yn trawsffurfio’r daith i’r ysgol ac yn darparu cymudiad hapusach ac iachach.
Mae Sustrans yn gweithio mewn partneriaeth, gan ddod â phobl at ei gilydd i ganfod yr atebion cywir. Dadleuwn achos cerdded a beicio gan ddefnyddio tystiolaeth gref a dangos yr hyn y gellir ei wneud.
Rydym wedi’n gwreiddio mewn cymunedau a chredwn fod cefnogaeth gwerin gwlad, wedi’i chyfuno ag arweinyddiaeth wleidyddol, yn peri newid gwirioneddol, a hynny’n gyflym.
Ymwelwch â’n prif wefan er mwyn canfod rhagor am ein gwaith ledled y DU.